top of page
Mae’r Rhwydwaith Cenedlaethol Celfyddydau ac Addysg yn tynnu ynghyd ysgolion, artistiaid a chyrff diwylliannol i gefnogi dysgu’r Celfyddydau Mynegiannol, gyda phrofiadau hyfforddi wedi eu teilwra i Gwricwlwm Cymru.
Mae'r Rhwydwaith yn bodoli er mwyn hwyluso’r berthynas rhwng ysgolion, artistiaid a chyrff diwylliannol, i ysbrydoli’r arfer gorau o fewn Maes Celfyddydau Mynegiannol Dysgu a Phrofiad Cwricwlwm Cymru.
Fel rhwydwaith cenedlaethol o athrawon, artistiaid a chyrff diwylliannol, mae’r Rhwydwaith yn amlygu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a chydweithredu, ac yn weithgar yn meithrin cydweithrediad proffesiynol rhwng ysgolion a sector y celfyddydau yng Nghymru.
bottom of page