top of page
IMG-20230727-WA0001.jpg

Paul yw Arweinydd Strategol Gwella Ysgolion Awdurdod Lleol Caerffili. Mae ei rôl yn cynnwys cyfrifoldeb am Wasanaeth Cerdd Caerffili. Mae ganddo brofiad arwain helaeth yn y sector addysg gynradd ac mae ganddo ddoethuriaeth addysgol gyda ffocws ar lythrennedd.

Cyd-gadeirydd , Paul Warren

Cyd-gadeirydd , Gwenno Eleri Jones

Mae gan Gwenno dros ugain mlynedd o brofiad mewn diwylliant a threftadaeth gan arbenigo mewn ymgysylltu â’r celfyddydau. Mae hi wedi graddio yn y Celfyddydau Cain ac yn athrawes ysgol uwchradd gymwysedig, mae hi’n Is-Gadeirydd Eleni, ar fwrdd Grŵp Celfyddydau mewn Iechyd a Lles Cymru ac yn aelod o grŵp datblygu Engage Cymru.

Sharon.png

Ymddiriedolwr, Dr Cameron Gardner

Ymddiriedolwr, Sharon Davies

Mae Cameron yn addysgwr cerdd, damcaniaethwr a dadansoddwr. Mae'n Uwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth ac yn Gyfarwyddwr Rhyngwladol yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd yn agystal â bod yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Mae Sharon yn Bennaeth Addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Cyn ymuno â CLlLC, bu’n gweithio fel Pennaeth Dysgu Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Roedd hi hefyd yn Brifathrawes Ysgol Gynradd yn Wiltshire.

Eleri Wyn Evans.jpg

Ymddiriedolwr, Eleri Evans

Eleri yw Pennaeth Dysgu Amgueddfa Cymru. Cyn hynny bu’n Rheolwr Dysgu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn athrawes celf a dylunio mewn ysgol uwchradd.

SS02-109244.jpg

Ymddiriedolwr, Stuart Foster

Mae Stuart yn Gyfarwyddwr Busnes yn Ysgol Gyfun Caerllion ac mae wedi gweithio ym maes addysg drwy gydol ei yrfa.

DC.jpg

Ymddiriedolwr, David Chamberlain

Mae David yn arwain tîm Datblygu'r Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Mae ganddo brofiad celfyddydau gweledol ac mae'n athro ysgol uwchradd cymwysedig.

Ymddiriedolwr,Jamie Jenkins

Jamie yw Cynhyrchydd Dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer diwydiannau creadigol yng Ngholeg Cambria.

Cydlynydd Rhwydwaith, Enlli Parri

Graddiodd Enlli gyda gradd BMus Dosbarth Cyntaf o'r Guildhall School of Music & Drama cyn dychwelyd i ennill Gradd Meistr MPerf. Yn ddiweddar cafodd Enlli ei phenodi i sedd yr 2il ffliwt gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

bottom of page